Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Senedd
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Mawrth 2024
Amser:
09.29 -
12.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13730
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Llyr Gruffydd AS (yn lle Luke Fletcher AS) Samuel Kurtz AS Vikki Howells AS Buffy Williams AS Hefin David AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Dr Richard Irvine, Llywodraeth Cymru Helen John, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru Tom Smithson, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rob Donovan, Clerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Aled Evans, Cynghorydd Cyfreithiol Chloe Corbyn, Ymchwilydd Sara Moran, Ymchwilydd Katy Orford, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Luke Fletcher AS ar gyfer eitem 3. Dirprwyodd Llyr Gruffydd ar ei ran.
1.3 Gwnaeth Luke Fletcher AS a Llyr Gruffydd AS ddatgan eu bod yn aelodau o Gymdeithas Filfeddygol Prydain. Gwnaeth Luke Fletcher AS ddatgan ei fod yn aelod o is-grwpiau o Fwrdd Pontio Tata Steel UK.
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor, gan ddarparu nodyn ar adroddiad Colin Birch – adroddiad a adolygwyd gan gymheiriaid – ar effaith y broses o gael gwared ar fywyd gwyllt heintiedig ar achosion o TB mewn gwartheg yn Lloegr.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu ffigurau ynghylch nifer y bobl sy’n manteisio ar gyfleodd i ddilyn prentisiaethau, a hynny yng nghyd-destun rhaglenni mis Ionawr.
5.1 Derbyniwyd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch yr ymgysylltu gweinidogol sy’n digwydd â Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion datganoledig.